Hanes Y Clwb

Er mai yn 1977 sefydlwyd y clwb yn swyddogol mae gwreiddiau’r clwb yn mynd yn ȏl yn llawer pellach gydag ambell i dro trwstan ar hyd y ffordd…

Gellir olrhain tarddiad golff ym Metws y Coed a’r cyffiniau yn ôl i 1912 pan baratowyd cynlluniau ar gyfer cwrs ar Fferm y Royal Oak a gwnaethpwyd apêl am aelodau. Dim ond ychydig o fisoedd defnyddiwyd y cwrs 9 twll ac aeth y tir yn ôl i ddefnydd amaethyddol fel rhan o’r gweithgareddau rhyfel. Gwnaethpwyd ymdrech i ail-sefydlu’r cwrs yn 1924 ond i ddim diben.

Map o’r cwrs gwreiddiol ym Metws y Coed (1912).

Bron i 60 mlynedd yn ddiweddarach daeth y syniad i’r wyneb eto a dechreuwyd ar y syniad o sefydlu Clwb Golff betws y Coed.

Dechreuodd tri gŵr sef Lewis Parry, E.R.Hughes ( a adnabyddir yn lleol fel “Nwd”) a Tom Jones (“Tom Banc”) drafod y posibilrwydd o sefydlu cwrs golff ar y safle presennol yn ystod teithiau cerdded min nos. Symudwyd ymlaen a daeth pwyllgor i fodolaeth yn ystod 1971.

Pwyllgor Sefydlu Clwb Golff Betws y Coed

Dechreuwyd ar waith caled dros 6 mlynedd o gyfarfodydd, cynllunio a chodi arian cyn i Glwb Golff Betws y Coed agor yn swyddogol ar 4ydd Mehefin, 1977 a hyn ar lawntiau dros dro. Daeth lawntiau iawn a tîs i ddefnydd ar 1af Mai 1978 a chynhaliwyd y seremoni agor swyddogol y cwrs ym mis Hydref 1978 gydag Iarll Ancaster yn taro ergyd oddi ar y ti cyntaf.

Yn 2002 cyhoeddwyd llyfryn  i ddathlu 25 mlynedd gyntaf y clwb. Paratowyd y llyfryn yn ofalus gan Mrs. Pat Rowley ac mae’n rhoi darlun cyflawn o’r clwb rhwng 1977 a 2002. Gellir lawr lwytho copi o’r llyfryn yma (dod yn fuan). Mae’n werth ei ddarllen.