Gwybodaeth i Ymwelwyr
Mae Clwb Golff Bwetws-y-coed yn ymestyn croeso cynnes iawn i ymwelwyr o bob oedran, a safon, trwy gydol y flwyddyn.
Mae dudalen yma’n ceisio rhoi rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr.
Chwaraewyr
Tâl arferol yng Nghlwb Golff Betws-y-coed yw £30 am 18 twll, er fedrith hyn newid yn dibynnu ar y diwrnod a’r amser. Cewch fwy o wybodaeth ar y Tudalen Taliadau….
Mae cystadlaethau yn cael eu chware ar y penwythnos yn arferol, hefo diwrnod y merched ar Ddydd Mawrth, a’r Hynafgwyr yn cwrdd ar Fore Dydd Mercher. Fel arfer, bydd y rhain yn amseroedd mwy anodd i fwcio gem, ond rowch alwad i ni os hoffech chi drio. Fedrwch hefyd weld rhestr y gosodion yma…..
BYCGC Fixture Book 2023 (Saesneg) nodwch plis, fedrith newid.
Mae croeso i chi cysylltu â ni neu alw’r ysgrifenyddes ar 01690 710556, i drafod unrhyw ofynion sydd ganddoch.