Gwybodaeth lleol

Mae Betws y Coed yn lleoliad poblogaidd gyda thwristiaid gydol y flwyddyn.  Adnabyddir y pentref fel “Yr Adwy i  Eryri” ac mae’n boblogaidd fel canolfan i gerddwyr mynydd a phobl sy’n ymddiddori yn y bywyd awyr agored. Mae yna nifer fawr o westai, llefydd bwyta a siopau annibynnol yn y pentref.

Gyda’r lleoliad yng nghanol Dyffryn Conwy mae Betws y Coed wedi ennill ei phlwyf gyda  phobl sy’n chwilio am fath newydd o antur ac mae’r pentref wedi sefydlu ei hun fel canolfan antur y Deyrnas Unedig. Mae anturiaethau megis y “Zip Wire,” “Surf Snowdonia, “Go Below Adverntures” a llwybrau beiciau mynydd o’r safon uchaf i gyd o fewn cyrraedd hwylus i’r pentref.

Yn y pentref ac yn yr ardal gyfagos mae yna nifer o deithiau cerdded poblogaidd ac wrth gwrs Y Rhaeadr Ewynnol enwog.

Gallwch ddarllen ymhellach am yr ardal wrth fynd i’r safleoedd canlynol…